Back to home page

Ymgynghoriad anstatudol

Trosolwg

Trosolwg

Fel rhan o'n hymgynghoriad, gofynnom am adborth gan randdeiliaid a’r gymuned leol ar ein cynlluniau i ddatblygu prosiect dal carbon yn safle Parc Adfer enfinium.

Cynhaliwyd ein hymgynghoriad rhwng dydd Llun 08 Medi a dydd Llun 06 Hydref. Mae'r adborth a gyflwynwyd i ni nawr yn cael ei adolygu a'i ystyried wrth i ni symud tuag at gyflwyno ein cais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint.

Os rhoddir caniatâd cynllunio, gellid dal hyd at 95% o’r 241,000 tunnell o garbon deuocsid (CO2) sy’n cael ei ryddhau bob blwyddyn o'r cyfleuster Ynni o Wastraff (EfW) a weithredir gan enfinium ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Bydd y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd a arweinir gan enfinium yn cefnogi twf economaidd, sgiliau a chyflogaeth yn yr economi leol.

Sefydlu technoleg dal carbon ym Mharc Adfer yw'r unig ffordd o ddatgarboneiddio'r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu sy'n cael ei gynhyrchu ledled Gogledd Cymru.

Trosolwg

Ein cynigion

Pan ddefnyddir gwastraff i gynhyrchu trydan, mae carbon deuocsid (CO2) yn un o'r sgil-gynhyrchion. Rydym yn cynnig gosod technoleg dal a storio carbon (CCS) yn ein cyfleuster troi gwastraff yn ynni ym Mharc Adfer er mwyn atal y CO2 hwn rhag mynd i'r atmosffer.

Yn hytrach, byddai'r CO2 yn cael ei ddal a’i gludo i’w storio’n barhaol mewn cronfeydd nwy disbyddedig.

Mae nifer o opsiynau ar gyfer cludo a storio CO2 yn barhaol wrthi’n cael eu datblygu yn y rhanbarth, gan gynnwys drwy raglen Dal a Storio Carbon Llywodraeth y DU, a gallai Parc Adfer ddefnyddio’r rhain i atafaelu'r CO2 sy'n cael ei ddal ar y safle.

Rydym eisoes yn rhedeg cynllun peilot dal carbon ym Mharc Adfer, sy'n dal tunnell o CO2 y dydd. Rydym bellach yn bwriadu uwchraddio'r dechnoleg hon sydd eisoes wedi'i phrofi a chadarnhau cysylltiad storio parhaol.

Byddai'r prosiect dal carbon arfaethedig hwn yn golygu mai Parc Adfer fyddai'r prosiect gwaredu carbon mwyaf yng Nghymru, ac yn creu swyddi yn ystod y gwaith adeiladu ac i'r dyfodol drwy weithredu a chynnal a chadw'r safle.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

Rydym wedi cynnal Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol i lywio dyluniad y prosiect. Cytunwyd ar y pynciau rydym wedi'u hastudio – fel sŵn, ecoleg, newid hinsawdd a thraffig – gyda Chyngor Sir y Fflint, a ymgynghorodd ag arbenigwyr fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir darllen y Crynodeb Annhechnegol drafft yn yr adran cynlluniau a dogfennau ar ein gwefan.

Botwm cynlluniau a dogfennau

Safle a gweithrediadau Parc Adfer

Bydd y cyfleuster dal carbon yn cael ei reoli gan yr un math o drwydded amgylcheddol â'r cyfleuster troi gwastraff yn ynni presennol ym Mharc Adfer – un sy'n cael ei rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yn ddarostyngedig i'r un prosesau llym ar gyfer rheoli a monitro allyriadau i'r aer.

Diogelwch bwriadol

Rydym yn gweithio yn ddiogel yn fwriadol er mwyn sicrhau rydym ni gyd yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ôl bob sifft, bob dydd. Rydym yn ymroddgar i wastad gwneud y peth cywir dros ddiogelwch ein tîm a’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddyn.

Effeithiau amgylcheddol

Rydym wrthi’n datblygu Cynllun Rheoli Ecoleg a’r Dirwedd a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint ochr yn ochr â’n cais cynllunio. Mae hwn yn cynnwys cadw cynefinoedd a gwaith plannu yn y dirwedd lle bo modd y tu allan i'r ardaloedd lle bydd gwaith datblygu offer dal parhaol yn mynd rhagddo, adfer gwaith plannu a chynefinoedd mewn ardaloedd lle mae gwaith adeiladu dros dro, ac ymgymryd â gwaith plannu ardaloedd newydd neu well a chreu cynefinoedd ar y safle.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ystyried cyfleoedd pellach ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae gwybodaeth am effeithiau a manteision amgylcheddol eraill – fel golygfeydd o'r dirwedd, rheoli’r risg o lifogydd, a newid hinsawdd – ar gael yn nogfennau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Gellir gweld y rhain yn yr adran cynlluniau a dogfennau ar ein gwefan.

Botwm cynlluniau a dogfennau

Deunyddiau

Dysgu mwy