Polisi preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd a chwcis hwn yn berthnasol i unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu mewn perthynas â’r enfiniwm - Parc Adfer. Mae’n nodi sut rydym yn gofalu am ddata personol ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfreithiau diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Pan fyddwn yn casglu data personol, ni yw rheolwr y data hwnnw, sy’n golygu mai ni sy’n gyfrifol am ofalu amdano.
Pwy ydyn ni
Yr endid sy’n gyfrifol am brosesu gwybodaeth bersonol yw enfinium Limited (rhif cwmni 07593865) y mae ei swyddfa gofrestredig yn 123 Victoria Street, Llundain, Lloegr, SW1E 6DE.
Gwybodaeth am Gwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i helpu i roi profiad pori hwylus i chi. Ffeiliau testun bach yw cwcis, sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol pan ydych yn ymweld â gwefan. Nid oes modd eu rhoi ar waith ac nid ydynt yn niweidiol i’ch cyfrifiadur.
Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu ystadegau o ran ymwelwyr, megis faint o bobl sydd wedi ymweld â'n gwefan, pa fath o dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio (e.e. cyfrifiadur personol neu ffôn symudol), pa dudalennau sy’n sylw ac ati. Mae’r wybodaeth ddefnyddiol hon yn ein helpu i wella ein gwefan a phrofiad ymwelwyr. Nid ydym yn defnyddio cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.
Os yw’r gosodiadau ar y porwr rhyngrwyd rydych yn eu defnyddio i ymweld â’r wefan hon wedi’u haddasu i dderbyn cwcis, rydym yn cymryd hyn, a’ch defnydd parhaus o’n gwefan, i olygu eich bod yn derbyn eu defnydd.
Os hoffech chi gael gwared o’r cwcis o’n gwefan, neu beidio â’u defnyddio, mae bron pob porwr modern yn caniatáu i chi weld pa gwcis sy’n cael eu cadw yn eich porwr a’u dileu os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Gellir ffurfweddu llawer o borwyr hefyd i ofyn am gydsyniad ar gyfer pob cwci unigol.
Mae hyn yn rhoi rheolaeth fanwl i chi dros ba gwcis rydych chi’n eu caniatáu ar eich porwr. Mae’r rhan fwyaf o borwyr hefyd yn rhoi’r hawl i chi rwystro unrhyw gwcis trydydd parti. Mae hefyd yn bosibl i gael eich porwr i rwystro pob cwci rhag cael ei osod. Gallwch gael mynediad at eich gosodiadau o ran cwcis yng ngosodiadau eich porwr.
Defnyddio cwcis trydydd parti
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwasanaethau allanol megis Google Analytics, Facebook, LinkedIn ac X i ddangos cynnwys penodol ar ein gwefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod nifer o gwcis er mwyn gwerthuso eich defnydd o’n gwefan a’n galluogi i gymryd camau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Tracio nifer yr ymwelwyr â'n gwefan.
- Monitro nifer y defnyddwyr ar ein gwefan ar unrhyw adeg benodol.
- Dadansoddi cynnwys poblogaidd ar ein gwefan.
Y data y byddwn yn ei gasglu amdanoch chi
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi fel a ganlyn:
- Data Adnabod – gwybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi (gan gynnwys enw a / neu enw’r cwmni).
- Data Cyswllt – gwybodaeth y gallwn ei defnyddio i gysylltu â chi (gan gynnwys cyfeiriad, cyfeiriad cofrestredig y cwmni, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost).
- Data Eiddo – gwybodaeth am berchnogaeth a meddiannaeth eiddo.
- Data Busnes – gwybodaeth am fusnesau sy’n berchen ar yr eiddo, yn gweithredu ohono neu’n ei ddefnyddio.
Sut ydym yn casglu a defnyddio eich data
Gwybodaeth rydych chi yn ei rhoi i ni’n uniongyrchol
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac mae’r polisi hwn yn amlinellu sut byddwn yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r GDPR. Mae'r polisi hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am yr hyn i’w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol drwy bob llwyfan, gan gynnwys pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan; neu pan fyddwch yn tanysgrifio i’n cyfathrebiadau marchnata.
Mae’n esbonio ymhellach y ffyrdd penodol yr ydym yn defnyddio ac yn datgelu’r wybodaeth honno.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ynghylch y canlynol:
- Ymwelwyr â’n gwefan;
- Pobl sy'n tanysgrifio i'n cyfathrebiadau; h.y. negeseuon e-bost marchnata, ffurflenni adborth ar-lein, cylchlythyrau a hysbysiadau am ddigwyddiadau;
- Pobl sy’n cyflenwi data i ni drwy gysylltu â sianeli cyfathrebu ein prosiectau (dros y ffôn, drwy e-bost ac yn ysgrifenedig) neu drwy fynychu digwyddiadau y gallwn fod yn eu cynnal (ar-lein ac wyneb yn wyneb); a
- Pobl sy’n dychwelyd ceisiadau am wybodaeth, megis Holiadur Buddiant mewn Tir.
Y rheolwr data yw enfinium Limited a fydd, mewn perthynas ag unrhyw ddata personol a gedwir, yn cydymffurfio â phob rhwymedigaeth o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data a’r Egwyddorion Diogelu Data. Bydd y rhwymedigaethau hyn yn cael eu hadolygu yn unol â’r rheoliadau parhaus i sicrhau cydymffurfiaeth.
Cyfathrebiadau Marchnata
Pan fyddwch yn tanysgrifio i’n cylchlythyr, mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gyfyngedig gennych:
- Enw a theitl swydd (lle bo’n berthnasol);
- Cyfeiriad e-bost a rhif ffôn; a
- Enw’r cwmni, lle bo’n berthnasol.
Gwybodaeth dadansoddeg
Fel y nodwyd eisoes, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwasanaethau allanol megis Google Analytics, Facebook, LinkedIn ac X i ddangos cynnwys penodol ar ein gwefan. Ni allwn atal gwefannau o’r fath rhag casglu gwybodaeth am eich defnydd o’u gwasanaethau, er enghraifft: sawl gwaith mae fideo wedi cael ei chwarae, faint o ymweliadau sydd wedi bod â’r wefan a chael gafael ar ddata lleoliad, ac ati.
Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwerthuso eich defnydd o’n gwefannau, llunio adroddiadau ar weithgarwch gwefannau ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch gwefannau a’r defnydd o’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google.
Data lleoliad
Pan fyddwch yn mynd ar y wefan drwy ddyfais symudol, mae’n bosibl y byddwn yn cael mynediad at, yn casglu, yn monitro a/neu’n storio o bell ‘data lleoliad’. Gall y data hwn gynnwys cyfesurynnau GPS (e.e. lledred a/neu hydred) neu wybodaeth debyg ynghylch lleoliad eich dyfais. Gall data lleoliad gyfleu gwybodaeth i ni am sut rydych yn pori ac yn defnyddio’r wefan. Efallai na fydd rhai o nodweddion y wefan, yn enwedig gwasanaethau sy’n seiliedig ar leoliad, yn gweithio’n iawn os yw’r defnydd o ddata lleoliad neu argaeledd data lleoliad yn cael ei amharu neu ei analluogi.
Llwyfannau gwefannau trydydd parti
Rydym hefyd yn casglu rhywfaint o’ch gwybodaeth gan drydydd partïon eraill, gan gynnwys cofnodion cyhoeddus megis Cofrestrfa Tir EF, Tŷ’r Cwmnïau, cofrestrfeydd ar-lein, gwefannau sefydliadau a gwybodaeth y gellir ei chael drwy chwilio’n gyffredinol ar y rhyngrwyd. Sylwch y gallwn gyfuno data personol rydym yn ei chael gan ffynonellau eraill â data personol rydych chi yn ei roi i ni a data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi.
Sut rydym yn defnyddio eich data
Mae angen casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae gennym fuddiant dilys i ddefnyddio’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu i ymgysylltu ymhellach â chi mewn cysylltiad â’r enfiniwm - Parc Adfer (y Datblygiad Arfaethedig).
Byddwn yn defnyddio eich data personol dim ond at y diben yr ydym yn ei gasglu, gan gynnwys y canlynol:
- Cynnal ymholiadau i berchnogaeth a meddiant tir, a gwerth / iawndal tir;
- Cyfathrebu â thirfeddianwyr a meddianwyr am y Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys trafodaethau â’r bobl hynny;
- Arolygu tir y gallai’r Datblygiad Arfaethedig effeithio arno;
- Ymgynghori ar y Datblygiad Arfaethedig ac adrodd i’r Ysgrifennydd Gwladol, yr Arolygiaeth Gynllunio neu awdurdodau lleol ar yr ymgynghoriad. Gall hyn olygu trosglwyddo eich data personol i’r partïon hynny, ac mewn rhai achosion, mae’n rhaid i ni gyhoeddi’r data fel rhan o broses gydsynio. Gellir gweld hysbysiad preifatrwydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn: https://www.gov.uk/government/publications/planning-inspectorate-privacy-notices/customer-privacy-notice ; a
- Datblygu a gweithredu’r Datblygiad Arfaethedig yn y dyfodol.
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben y maent yn cael eu casglu, oni bai ein bod yn credu’n rhesymol bod angen i ni eu defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n cyd-fynd â’r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro’r sail gyfreithiol sy’n caniatáu i ni wneud hynny.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol â’n cynghorwyr proffesiynol, gan gynnwys ein hymgynghorwyr cyfathrebu (Carmague), swyddogion cyfeirnodi tir ac asiantau tir (Savills) a’n cynghorwyr cyfreithiol (Pinsent Masons LLP) at ddibenion y Datblygiad Arfaethedig. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chyrff y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith (lle bo hynny’n ofynnol neu’n cael ei chaniatáu gan y gyfraith).
Sut rydym yn storio ac yn rhannu eich data
Sut rydym yn storio gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio ar weinydd diogel sydd â gwasanaeth delweddu ar gyfer gwneud copïau wrth gefn. Yn gyffredinol, bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cael ei storio mewn cyrchfan o fewn y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r AEE, os caiff ei storio ar lwyfannau allanol.
Sylwch fod gan rai gwledydd y tu allan i’r AEE safon is o ddiogelwch ar gyfer data personol, gan gynnwys gofynion diogelwch is a llai o hawliau i unigolion. Pan fydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo, ei storio a/neu ei brosesu fel arall y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data personol yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi hwn.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth dim ond am gyfnod y Datblygiad Arfaethedig, y cyfnod ymgynghori neu hyd nes eich bod yn dewis dad-danysgrifio i ni. Ni fyddwn yn rhentu nac yn gwerthu eich gwybodaeth i drydydd partïon y tu allan i’r enfiniwm - Parc Adfer heb eich cydsyniad.
Diogelwch data
Rydym yn cymryd gofal arbennig i sicrhau diogelwch eich data personol wrth ei gasglu, ei ddefnyddio, ei storio a’i drosglwyddo. Dim ond unigolion wedi’u dilysu ac sydd â’r awdurdod priodol sy’n cael mynediad ato. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ac o dan gontract ar bob aelod o’n staff sydd â mynediad at ddata personol i barchu cyfrinachedd yr wybodaeth hon ac rydym yn darparu hyfforddiant i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynnal.
Mae gweithdrefnau ar waith gennym i ddelio ag unrhyw doriad neu amheuaeth o doriad diogelwch data personol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am doriad diogelwch lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Dolenni i wefannau a gwasanaethau eraill
Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn cwmpasu unrhyw ddolen o fewn y wefan hon sy’n arwain at wefannau eraill. Darperir dolenni i wefannau trydydd parti eraill er hwylustod yn unig. Os byddwch yn defnyddio’r dolenni hyn, byddwch yn gadael y wefan. Nid ydym wedi adolygu’r gwefannau trydydd parti hyn ac nid oes gennym unrhyw reolaeth drostynt nac unrhyw gyfrifoldeb amdanynt, eu cynnwys na’u hargaeledd nac unrhyw wybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau y gall trydydd partïon o’r fath eu cynnig.
Pa hawliau sydd gennych chi
Mae gennych nifer o hawliau o dan y Deddfau Diogelu Data mewn perthynas â’r ffordd rydym yn prosesu eich data personol. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion ar ddechrau’r hysbysiad preifatrwydd hwn i arfer unrhyw un o’r hawliau hyn.
Mae gennych yr hawliau canlynol:
- I ofyn am fynediad at eich data personol, ei gywiro neu ei ddileu;
- I gael cyfyngiad ar brosesu eich data personol;
- I dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg os yw prosesu eich gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar eich cydsyniad. Ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu a wnaed cyn i chi dynnu eich cydsyniad yn ôl;
- I dderbyn eich gwybodaeth bersonol mewn fformat strwythuredig, cyffredin y gall peiriant ei ddarllen (cludadwyedd data); a
- I gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio diogelu data, e.e. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol fel a ganlyn:
- Os yw prosesu eich data personol yn seiliedig ar yr angen i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu ar gyfer buddiannau cyfreithlon, mae gennych yr hawl i wrthwynebu, ar sail sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol, ar unrhyw adeg i’r prosesu hwn;
- Pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol, mae gennych chi’r hawl i wrthwynebu ar unrhyw adeg i’r prosesu o ddata personol amdanoch chi ar gyfer marchnata o’r fath.
Gall fod amodau neu gyfyngiadau ar yr hawliau hyn. Er enghraifft, nid yw’n sicr y bydd hawl i gludadwyedd data yn berthnasol bob amser – mae hyn yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y gweithgarwch prosesu.
Os oes gennych bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol, neu os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym wedi delio ag unrhyw gais gennych, neu os hoffech wneud cwyn fel arall, cysylltwch ag enfinium Limited yn y lle cyntaf gan ddefnyddio’r manylion ar ddiwedd yr hysbysiad preifatrwydd hwn er mwyn i ni allu gwneud ein gorau i ddatrys y broblem.
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF neu drwy www.ico.org.uk.
Newidiadau i bolisi preifatrwydd
Rydym yn adolygu ein Polisi Preifatrwydd yn rheolaidd ac, o ganlyniad, mae’n bosibl y caiff ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a/neu ein harferion preifatrwydd. Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n Polisi Preifatrwydd yn cael eu rhoi ar y dudalen hon. Felly dylech barhau i adolygu’r Polisi Preifatrwydd pan fyddwch yn ymweld â’r wefan neu’n ei defnyddio i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau. Os nad ydych yn dymuno derbyn y Polisi Preifatrwydd ar unrhyw adeg, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.
Manylion cyswllt
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y polisïau rydym yn eu defnyddio o ran preifatrwydd, cwcis neu’r GDPR a’u dibenion, cysylltwch â’n swyddog diogelu data ar gyfer yr enfiniwm – Parc Adfer gan ddefnyddio’r manylion isod:
- Wayne Robertson, 123 Victoria Street, Llundain, SW1E 6DE
- wayne.robertson@enfinium.co.uk
- +44 7810 568 362
Cafodd y polisi hwn ei adolygu a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Hydref 2024.