Cefndir
Gwybodaeth am enfinium
Fel un o’r prif weithredwyr troi gwastraff yn ynni yn y DU, mae enfinium yn cefnogi taith y wlad tuag at economi Sero Net.Rydym yn gwneud hyn drwy redeg a datblygu pum canolfan ddatgarboneiddio yn y DU, lle rydym yn defnyddio gwastraff a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi, i gynhyrchu ein hynni ein hunain.
Byddai'r holl gynhyrchion yn cael eu gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailweithgynhyrchu, eu hadnewyddu a'u hailgylchu, neu o ddeunyddiau carbon isel a chynaliadwy, gan ddefnyddio cyn lleied o ynni â phosibl. Fodd bynnag, yn y byd sydd ohoni, nid yw hon yn gamp hawdd i'w chyflawni. Dyma lle mae enfinium a'n cyfleusterau troi gwastraff yn ynni yn dangos eu gwerth.
Mae troi gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ynni lleol, dibynadwy yn creu pŵer ac yn datgloi cyfleoedd economaidd gwyrdd yn y dyfodol.
Rydym yn mynd gam ymhellach drwy ddatblygu cynlluniau i ddefnyddio technoleg arloesol i ddal carbon yn ein cyfleusterau i dynnu allyriadau carbon allan o'r atmosffer.
Mae gosod technoleg dal carbon ar safleoedd troi gwastraff yn ynni yn gyfle unigryw i greu pŵer carbon negyddol, gan gefnogi uchelgeisiau i ddatgarboneiddio economïau Cymru a Phrydain.
Parc Adfer
Cyfleuster troi gwastraff yn ynni (EfW) yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, yw Parc Adfer. Drwy’r cyfleuster hwn, mae hyd at 232,000 tunnell o wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi a’i brosesu i gynhyrchu digon o ynni i bweru mwy na 45,000 o gartrefi a busnesau.
Dechreuodd y cyfleuster weithredu yn 2019 ac mae'n prosesu gwastraff ar gyfer 'Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru', sy'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.
Gweithredir Parc Adfer gan enfinium ar ran y pum awdurdod ym Mhartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, drwy Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat (PPP) a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Mae adfer ynni a deunyddiau y gellir eu hailgylchu ym Mharc Adfer yn ddull gwell o’u trin na thirlenwi, sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Yn ogystal â chynhyrchu ynni, mae'r cyfleuster yn adfer metelau a lludw y gellir eu defnyddio mewn gwaith adeiladu, gan helpu i leihau'r carbon corfforedig mewn prosiectau.
Dal carbon
Mae carbon deuocsid (CO2) yn un o sgil-gynhyrchion troi gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn drydan. Fodd bynnag, mae'n bosibl dal y CO2 hwn a'i storio'n ddiogel, gan ei atal rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.
Mae dal carbon mewn cyfleuster troi gwastraff yn ynni (EfW) yn gweithio drwy gymryd nwy ffliw i mewn o’r cyfleuster, ei oeri, a'i fwydo i mewn i golofn amsugno.
Ar y cam hwn, defnyddir hydoddydd hylifol, fel amin, i amsugno'r CO2. Ar ôl tynnu'r CO2, bydd gweddill y nwy ffliw sydd wedi'i lanhau yn cael ei ryddhau'n ddiogel i'r atmosffer.
Mae'r hydoddydd hylifol wedyn yn cael ei ail-gynhesu i ryddhau'r CO2 a ddaliwyd fel nwy, sy'n cael ei gasglu a'i gywasgu cyn mynd i mewn i bibell i'w gludo oddi ar y safle. Mae'r CO2 sy’n cael ei ddal yna’n cael ei storio'n ddiogel ac yn barhaol.
Dal carbon yng Ngogledd Cymru
Er bod Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu, nid ellir osgoi cynhyrchu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn y dyfodol agos. Mae Parc Adfer wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu Cymru i roi'r gorau'n raddol i ddefnyddio safleoedd tirlenwi – sy'n niweidiol i'r hinsawdd – ar gyfer gwastraff gweddilliol. Mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at gyfraddau ailgylchu Cymru, sydd gyda'r gorau yn y byd, drwy adfer sgil-gynhyrchion defnyddiol eraill.
Byddai gosod dulliau dal carbon yn gwella perfformiad amgylcheddol y cyfleuster ymhellach ac yn lliniaru'r effeithiau niweidiol ein gwastraff gweddilliol nad oes modd ei ailgylchu ar yr amgylchedd.
Mae'r dechnoleg rydyn ni'n ei chynnig yn gallu dal hyd at 95% o allyriadau CO2 presennol Parc Adfer (241,000 o dunelli). Hefyd, gan fod tua hanner y gwastraff sy'n cael ei brosesu ym Mharc Adfer yn fiogenig, byddai gosod technoleg dal carbon yma yn gwneud y cyfleuster yn un 'carbon negyddol'.
Yn ei dro, byddai hyn yn helpu i liniaru'r allyriadau CO2 o rai o’r sectorau mwyaf llygredig yng Nghymru, fel dur, hedfanaeth ac amaethyddiaeth. Er bod y diwydiannau hyn yn hanfodol i economi Cymru, nid oes modd osgoi eu hallyriadau CO2, felly maent yn ei chael yn anodd cyrraedd targedau hinsawdd.
Ar ben hynny, gan mai dim ond chwe blynedd sydd tan ddechrau Pedwaredd Gyllideb Garbon Cymru, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi cynghori y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r diwydiant ac awdurdodau lleol i ddod â chynlluniau yn eu blaenau ar gyfer gosod technoleg dal a storio carbon yn y ddau safle Troi Gwastraff yn Ynni sydd eisoes yng Nghymru. Ystyrir hyn yn allweddol os ydy Cymru am gyflawni Sero Net.