Trawsnewid
ynni i
drawsnewid y
byd er gwell
Fel un o’r prif weithredwyr troi gwastraff yn ynni yn y DU, rydym yn falch o gyhoeddi ein cynlluniau i gyflawni'r prosiect gwaredu carbon mwyaf yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad ar ein cynigion i osod technoleg dal carbon ar safle Parc Adfer enfinium yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, bellach wedi cau.
Diolch i bawb a roddodd adborth. Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu a'i ystyried wrth i ni symud ymlaen drwy'r broses o wneud cais cynllunio.
Parc Adfer, Gogledd Cymru
Drwy'r bwriad i osod technoleg dal carbon yn ein cyfleuster Parc Adfer yng Ngogledd Cymru, byddwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni targedau sero net cenedlaethol, rhoi hwb i economïau rhanbarthol, a sicrhau dyfodol glanach.
Ers 2019, mae Parc Adfer wedi bod yn dargyfeirio gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi ac yn ei droi'n drydan ar gyfer miloedd o gartrefi a busnesau.
Nawr, rydym yn barod i fynd â'r stori hon gam ymhellach. Os cânt eu cymeradwyo, gallai’r cynlluniau ym Mharc Adfer olygu bod y cyfleuster yn dechrau tynnu hyd at 120,000 tunnell o garbon deuocsid o'r atmosffer bob blwyddyn, a fyddai'n cael ei storio'n ddiogel ac yn barhaol mewn cronfeydd nwy disbyddedig.
Fel rhan o'n hymgynghoriad, fe wnaethom gynnal digwyddiad galw heibio i ymgynghori â’r gymuned yn Neuadd Ddinesig Cei Connah ddydd Mawrth 16 Medi 2025, yn ogystal â gweminar ddydd Mercher 24 Medi 2025.
Gallwch wylio’r weminar a gynhaliwyd ddydd Mercher 24 Medi yma.
Botwm gwylio nawr